Gallai trawsleoliad llwyddiannus o felaod coed i gynefinoedd addas lle roeddent unwaith yn bodoli – un ai’n hanesyddol neu’n fwy diweddar – fod yn gam sylweddol ymlaen o ran gwella statws cadwraethol ac amrywiaeth genetegol y rhywogaeth hon yn Lloegr a Chymru. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig asesiad cychwynnol o ddichonoldeb ymgymryd â gwaith trawsleoli i atgyfnerthu poblogaethau sydd eisoes yn bodoli ac sydd wedi methu adfer yn naturiol.